Mae ASau Plaid Cymru Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor wedi galw eto ar Ddŵr Cymru i ailddyblu ymdrechion i atal carthion rhag arllwys i ddyfrffyrdd yng Ngwynedd wrth i adroddiadau o ddympio carthion barhau.
Mae ffigurau’n dangos bod 118,276 o ollyngiadau carthion yng Nghymru yn 2024 gyda Dwyfor Meirionnydd yn adrodd 10,578 o ollyngiadau yn para tua 88,682 awr ar draws 175 o safleoedd.
Mae Mrs Saville Roberts a Mr ap Gwynfor wedi codi’r mater dro ar ôl tro gyda Dŵr Cymru gan annog y cwmni i weithredu neu niweidio enw da’r cymunedau hynny yr effeithir arnynt.
Ond mae pryderon yn parhau am amlder arllwysiadau carthion i ddyfrffyrdd ar draws Gwynedd, gyda chymunedau fel Tywyn, Cricieth, Fairbourne, a Phwllheli yn adrodd achosion dro ar ôl tro.
Mae Mrs Saville Roberts a Mr ap Gwynfor wedi rhybuddio bod yn rhaid gwneud mwy yn i leihau ac atal gollyngiadau carthion i ddyfrffyrdd lleol gan gynnwys gwell cyfathrebu â’r cyhoedd ac maent wedi annog Dŵr Cymru i ymgysylltu’n rhagweithiol â chymunedau lleol a grwpiau ymgyrchu.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS:
Mae llygredd ein moroedd, ein traethau, ein hafonydd a’n llynnoedd nid yn unig yn bygwth ein hiechyd ond hefyd ein lles a’n hymdeimlad o falchder lleol. Mae hefyd yn cael effaith andwyol ar economi ymwelwyr Gwynedd ac ar weithgareddau hamdden dŵr.
Rydym yn parhau i dderbyn gohebiaeth reolaidd gan etholwyr, sy’n pryderu am ollwng carthion yn aml i’n dyfrffyrdd lleol a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar iechyd ein cymunedau.
Mae’n dangos lefel y pryder yn lleol os yw pobl yn barod i ysgrifennu at eu cynrychiolwyr etholedig am y mater hwn yn rheolaidd. Rydym yn rhannu’r pryderon hyn a chanfyddiad ehangach y cyhoedd nad yw’r cyrff hyn o ddŵr yn ddiogel i’w defnyddio.
Mae ein hetholaeth yn dibynnu’n helaeth ar dwristiaeth, yn enwedig cymunedau arfordirol fel Pwllheli, Tywyn a Chricieth. Mae’n ddigalon felly cael gwybod dro ar ôl tro bod carthion yn cael eu gollwng i’r ardaloedd hyn, gan achosi pryder amlwg yn lleol.
Dylid gwerthfawrogi bod llawer o’r rhai sy’n defnyddio ein hafonydd, llynnoedd a moroedd at ddibenion hamdden yn dibynnu ar apiau am wybodaeth am ansawdd dŵr.
Byddem yn annog Dŵr Cymru i ailddyblu eu hymdrechion i weithio gyda’r llwyfannau hyn i sicrhau bod data cywir, diweddaraf yn cael ei ddefnyddio i hysbysu defnyddwyr am ansawdd dŵr.
Yn anad dim, rhaid gwneud pob ymdrech i liniaru’r sefyllfa barhaus na all iechyd ein cymunedau, yr economi ymwelwyr na Dŵr Cymru ei fforddio.