Yma cewch fanylion cyswllt eich cynrychiolwyr etholedig.
Cliciwch ar yr enwau i wneud eich dewis.

Aelod Seneddol (Y DG)
Y Gwir Anrhydeddus Liz Saville Roberts ydy Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.
Mae Liz yn delio yn bennaf â materion megis:
- Y Swyddfa Gartref a'r Swyddfa Dramor (Fisas a Pasborts)
- DWP | Budd-daliadau | Pensiynau | Lles
- Credydau Treth a Chynnal Plant
- Lluoedd Arfog a Chyn Filwyr
- Cyfraith a Threfn | Cyfiawnder
- Cysylltedd (Band Eang)
Aelodau Senedd Cymru
Mabon ap Gwynfor ydy Aelod Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
Sian Gwenllian ydy Aelod Senedd Cymru dros Arfon.
Maent yn delio â materion sy'n ymwneud â:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Addysg
- Trafnidiaeth
- Yr Amgylchedd
- Tai
- Llywodraeth Leol
- Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant
Cynghorwyr Sir Gwynedd Maldwyn
Mae gan Blaid Cymru 38 Cynghorydd Sir yn Nwyfor a Meirionnydd (gan gynnwys Edeirnion) a 4 ym Maldwyn Glyndwr.