Ymgeiswyr Gwynedd Maldwyn Senedd 2026

Dyma ymgeiswyr Plaid Cymru Gwynedd Maldwyn ar gyfer etholiad Senedd 2026. Bydd y tîm yn cael ei arwain gan Siân Gwenllian, ymgeisydd Rhif 1 Plaid Cymru.

1. Siân Gwenllian 

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru. Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yn 2016, a chafodd ei hail-ethol yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o’r bleidlais. Mae’n falch o fod wedi ymgyrchu’n llwyddiannus am ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru ym Mangor yn ei hetholaeth.

Ar hyn o bryd mae’n dal portffolio Tai a Chynllunio Plaid Cymru (2024-) yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Bu’n gweithio ar 46 o feysydd polisi gan sicrhau newidiadau mawr megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ehangu gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ogystal â chyfrannu at greu Senedd fwy effeithiol a chynrychioliadol.

Fe’i magwyd ym mhentref Y Felinheli lle mae’n dal i fyw a derbyniodd ei haddysg uwchradd ym Mangor. Mynychodd y brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC, HTV, Golwg yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu rhaglenni dogfen ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd (1997-2004.)

Yn 2008 etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros y Felinheli, gan wasanaethu am 8 mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd. Bu’n dal y portffolio cyllid (2010-12) cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.

Mae diddordeb gwleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Mae hi hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol gynradd ac uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymuned lleol ac yn wirfoddolwr gyda llawer o fudiadau lleol. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched a’r Gymraeg ers dros 45 mlynedd.

Roedd gan Siân bedwar o blant gyda’i gŵr, Dafydd ond yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o ganser. Magodd Siân y pedwar plentyn fel rhiant sengl.

 

2. Mabon ap Gwynfor

 

Mae Mabon ap Gwynfor yn cynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd ac fe’i hetholwyd gyntaf yn 2021. Mae’n gwasanaethu fel Llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrif Chwip y blaid. Cyn ei ethol i’r Senedd, gwasanaethodd Mabon fel Cynghorydd Sir ar Gyngor Sir Ddinbych gan gynrychioli ward Llandrillo rhwng 2017 a 2021. Gwasanaethodd Mabon hefyd fel Cynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004. 

Mae Mabon yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys materion rhyngwladol yn ymwneud â heddwch a’r berthynas rhwng gwladwriaethau; a hawliau cymunedau a phobl. Sefydlodd Mabon Gynghrair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013. Bu'n gyd-drefnydd Gŵyl Genedlaethol Cymru dros Heddwch rhwng 2004 a 2006. Mae'n aelod o'r Grŵp Gwleidyddol Pan-Ewropeaidd ar Ganser. Mabon yw Cadeirydd CND Cymru. 

Ymhlith blaenoriaethau Mabon mae gweithredu i atal y llif o bobl ifanc rhag gadael ein cymunedau drwy wthio am fuddsoddiad yn ein seilwaith, gwella trafnidiaeth gyhoeddus, a gweithredu cynllun radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Fel mab i'r mans, symudodd y teulu o gwmpas gwahanol gymunedau. O ganlyniad, mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gŵyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byr yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.

 

3. Beca Brown

Yn enedigol o Aberhonddu, magwyd Beca yn Nyffryn Ardudwy a Waunfawr, cyn ymgartrefu yn Llanrug wedi cyfnod yng Nghaerdydd.

Mae hi’n gynghorydd sir ar Gyngor Gwynedd ac yn gweithio ym maes Cymraeg i oedolion. Fel plentyn i rieni o Loegr, mae hi’n mwynhau cefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg ar ôl gweld ei rhieni yn dysgu’r iaith ar ôl symud i Gymru. Newyddiaduraeth yw ei chefndir a bu’n gweithio yn y maes hwnnw am flynyddoedd lawer, gan ymddiddori’n bennaf ym maes cyfiawnder cymdeithasol.

Mae hi wedi ymwneud â gwleidyddiaeth ers ei dyddiau ysgol, ond dechreuodd ei gweithgarwch gwleidyddol ar y cyngor cymuned lleol, ble mae hi’n gwirfoddoli ar gynllun rhannu bwyd FareShare a gyda’r gyfnewidfa gwisgoedd ysgol ail-law.

Cymunedau hyderus, hyfyw a hapus yw ei dyhead dros ein gwlad ac mae ei gwaith gwleidyddol yn dangos yn glir iddi bod ein pobol yn haeddu rhywbeth gwell na briwsion ein llywodraethau presennol. Mae Beca yn fam i ddau o blant yn eu hugeiniau ac yn mwynhau’r celfyddydau a cherdded ei chi.

 

4. Elwyn Vaughan 

 

5. Elin Hywel 

 

6. Donna O'Brien 

Rwyf wedi bod yn aelod o Blaid Cymru ers dros bum mlynedd ac ar hyn o bryd yn gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned yn Rhiwabon. Wedi fy ngeni a'm magu yn Wrecsam, symudais i Riwabon chwe blynedd yn ôl i fod yn agosach at fy nheulu ehangach, ac rwy'n falch o alw'r gymuned hon yn gartref. Rwyf wedi gweithio yn y gwasanaethau ariannol ers dros 20 mlynedd, gan ennill profiad o gefnogi pobl gyda rhai o'r penderfyniadau mwyaf yn eu bywydau. Rwyf hefyd yn astudio ac yn mwynhau dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, gan fy mod yn credu bod ein hiaith yn rhan hanfodol o’n diwylliant a’n dyfodol.

Yn fy amser ar y cyngor, rwyf wedi arwain ymgyrchoedd lleol fel achub Ardal Gemau Amlddefnydd Rhiwabon (MUGA). Ar ôl trefnu sesiynau glanhau cymunedol a gweithio gyda gwirfoddolwyr, fe wnaethom sicrhau £47,000 o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i newid yr hen gyfleuster am un newydd, modern ar gyfer teuluoedd lleol.

Rwyf hefyd wedi bod yn rhan weithredol o’r ymgyrch yn erbyn safle tirlenwi’r Hafod, gan helpu i drefnu protestiadau a deisebau a ddenodd sylw’r cyfryngau ledled Cymru ac sydd bellach yn cael eu hystyried gan bwyllgor deisebau’r Senedd. Cyn hynny, roeddwn yn rhan o’r pwyllgor ar gyfer Gardd Gymunedol Pen-y-Cae, yn helpu i sefydlu’r gofod tyfu ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol cynaliadwy.

Ochr yn ochr â hyn, bûm yn rhan o’r tîm yn canfasio ym Maldwyn a Glyndwr yn ystod yr Etholiad Cyffredinol diwethaf ac yn parhau i gefnogi ymgyrchoedd y Blaid yn lleol ac yn genedlaethol.

Fy mlaenoriaethau yw tegwch, cymuned, a rhoi hyder i bobl yn eu dyfodol. Rwyf am weld Cymru decach lle mae gan gymunedau lleol fel ein un ni y buddsoddiad, y gwasanaethau, a’r cyfleoedd yr ydym yn eu haeddu.