
Y Gwir Anrhydeddus Liz Saville Roberts AS
Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd
Etholwyd Liz Saville Roberts gyntaf yn 2015, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cadwodd y sedd yn etholiadau brys 2017 a 2019 gyda chanran uwch o’r bleidlais. Yn dilyn newidiadau ffiniau yn 2024, enillodd Liz sedd newydd Dwyfor Meirionnydd gyda mwyafrif o 15,876. Mae’r etholaeth bellach yn ymestyn i’r Felinheli i’r gogledd ac ardal Edeirnion i’r dwyrain.
Yn wreiddiol o Eltham yn ne Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain a gogledd Cymru ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg. Cyn ei hethol i San Steffan, roedd Liz yn Gynghorydd Sir Gwynedd rhwng 2004 a 2015 gan gynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn.
Yn 2017 apwyntiwyd Liz fel Arweinydd Seneddol Grŵp Plaid Cymru San Steffan a hi yw Llefarydd y Blaid ar y Swyddfa Gartref, Swyddfa Cymru, Cyfiawnder, Twrna Cyffredinol, Swyddfa’r Cabinet ac Amddiffyn.
Mae Liz wedi byw ym Mhen Llŷn gyda’i gŵr Dewi ers 1993. Mae ganddynt ddwy ferch.
Derbyniodd wobr AS y Flwyddyn yn 2020.
Yn 2016 derbyniwyd Liz fel aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni. Yn ei hamser hamdden mae Liz yn mwynhau marchogaeth a cherdded.
Cysylltu â Liz
T: (01341) 422 661
A: Beechwood House | Heol y Bont | Dolgellau | LL40 1LN
A: 8 Stryd y Castell | Caernarfon | LL55 1SE
F: Facebook Liz W: Proffil Seneddol
