
Siân Gwenllian AS
Mae Siân Gwenllian wedi cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru ers 2016. Cafodd ei hail-ethol yn 2021 gyda 63.3% o’r bleidlais – y ganran uchaf o blith yr holl ymgeiswyr yng Nghymru – gan ddyblu ei mwyafrif. Mae’n arbennig o falch o’i hymgyrch lwyddiannus dros sefydlu ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru, wedi’i lleoli ym Mangor yn ei hetholaeth.
Ar hyn o bryd, mae Siân yn dal portffolio Tai a Chynllunio dros Blaid Cymru (2024–). Cyn hynny, bu’n Aelod Arweiniol Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio (2021–2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n rhan o 46 o feysydd polisi, gan gyfrannu at newidiadau sylweddol megis: prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, diwygio’r Senedd i’w gwneud yn fwy effeithiol a chynrychioliadol.
Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd, mae Siân wedi dal sawl portffolio polisi i Blaid Cymru, gan gynnwys Addysg, Llywodraeth Leol, Cynllunio, Y Gymraeg, a Diwylliant. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Comisiynydd y Senedd, Trefnydd, Prif Chwip, a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd. Yn 2024, penodwyd hi’n Gyfarwyddwr Polisi ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.
Magwyd Siân ym mhentref Y Felinheli, lle mae’n dal i fyw. Derbyniodd ei haddysg uwchradd ym Mangor, ac astudiodd ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae ganddi gefndir proffesiynol ym maes newyddiaduraeth, gan weithio gyda’r BBC, HTV, Golwg, yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni dogfen yn annibynnol. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd rhwng 1997 a 2004.
Yn 2008, etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, gan wasanaethu am wyth mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd. Yn ystod ei chyfnod ar y cyngor, bu’n dal y portffolio Cyllid (2010–2012), cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.
Mae diddordeb gwleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Mae hi wedi bod yn llywodraethwr ysgol gynradd ac uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymunedol lleol, ac yn wirfoddolwr gyda nifer o fudiadau cymunedol. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd brwd dros gydraddoldeb merched a’r iaith Gymraeg ers dros 45 mlynedd.
Mae gan Siân bedwar o blant gyda’i gŵr, Dafydd. Yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o ganser. Magodd Siân y pedwar plentyn fel rhiant sengl.
Cysylltu â Siân
T: (01286) 672 076
C: 8 Stryd y Castell | Caernarfon | LL55 1SE
F: Facebook Sian Gwenllian AS/MS
