
Mabon ap Gwynfor AS
Aelod Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd
Etholwyd Mabon i Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn 2021. Cyn hynny roedd yn Gynghorydd Sir ar gyfer Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych ers 2017. Bu hefyd yn Gynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004. Mabon yw llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae Mabon ap Gwynfor yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys materion rhyngwladol yn ymwneud a heddwch a chydberthynas gwladwriaethau; a hawliau cymunedol a phobl. Sefydlodd Mabon Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013. Roedd yn gyd-drefnydd i wyliau heddwch cenedlaethol Cymru o 2004 i 2006. Mae Mabon yn Gristion. Mae’n arlunydd cain amatur, ac yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth, darllen yn eang, a chwarae gyda’i blant.
Mae Mabon yn wr i Nia, ac yn dad i bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm deuluol. Yn fab i’r mans, symudodd y teulu i wahanol gymunedau. O ganlyniad mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gwyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.
Cysylltu â Mabon
T: 0300 200 7175
C: Beechwood House | Heol y Bont | Dolgellau | LL40 1LN
F: Facebook W: Proffil Senedd
