Teuluoedd mewn argyfwng wrth aros am ddiagnosis awtistiaeth i'w plant

Teuluoedd mewn argyfwng wrth aros am ddiagnosis awtistiaeth i'w plant

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am yr oedi annerbyniol a niweidiol wrth wneud diagnosis o blant â chyflyrau niwroamrywiaeth megis awtistiaeth ac ADHD ar draws Gwynedd.

Wrth holi’r Prif Weinidog, lleisiodd Mr ap Gwynfor bryderon am yr argyfwng cynyddol, gan fod rhai plant yn y gogledd yn aros hyd at bedair blynedd am asesiad – oedi sy’n cael effaith ddyrys ar eu datblygiad, eu haddysg, a’u hiechyd meddwl. Mae rhai teuluoedd yn ei etholaeth yn cael eu gorfodi i dalu’n breifat am ddiagnosis oherwydd diffyg darpariaeth amserol gan y GIG.

Mewn rhai achosion, mae plant yn cyrraedd pwynt argyfwng - hunan-niweidio a phrofi meddyliau hunanladdol - wrth iddynt aros am ddiagnosis.

Dangosodd ffigurau o fis Medi 2024 fod 20,770 o blant yn aros am asesiad niwroddatblygiadol yng Nghymru, gyda rhagamcanion yn awgrymu y gallai’r nifer hwn godi i rhwng 41,000 a 61,000 erbyn mis Mawrth 2027 oherwydd galw cynyddol a chapasiti cyfyngedig.

Yn ardal BIPBC, dywedir bod amseroedd aros am ddiagnosis o awtistiaeth mewn ardaloedd gwledig wedi cyrraedd hyd at 46 mis (pedair blynedd).

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth a welwyd gan Mr ap Gwynfor yn datgelu bod 7,154 o blant ar y rhestr aros niwroamrywiaeth ar draws ardal BIPBC gyda dim ond pum clinigwr yn cynnal asesiadau yn y gogledd orllewin. Cynhaliwyd 78 asesiad yn y gogledd orllewin rhwng Ebrill 25 - Mawrth 25, o gymharu â 241 yn y dwyrain am yr un cyfnod.

Wrth holi’r Prif Weinidog, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma heddiw yn bresennol wedi gweld nifer cynyddol o waith achos o amgylch diagnosis a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd yn byw efo cyflyrau niwroamrywiol. Yn fy achos i, dwi wedi gweld rhieni yn dod mewn i gymorthfeydd ac yn dod mewn i'r swyddfa yn eu dagrau oherwydd bod ganddyn nhw blant 11 oed yn niweidio eu hunain, a rhai yn trio cymryd eu bywydau eu hunain, oherwydd nad oes ganddyn nhw'r diagnosis na'r gefnogaeth angenrheidiol. Rŵan, yn wahanol i'r data rydych chi newydd ei ddweud, mae'r data dwi wedi'i gael drwy FOI yn dangos bod yna dros 7,000 o blant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru yn aros am asesiad, ac efo tua 40 asesiad yn cael eu gwneud bob mis yn unig yn y gogledd, mae hwnna'n golygu y bydd o'n cymryd tua 15 mlynedd i fynd drwy'r rhestr aros awtistiaeth a niwroamrywiaeth yn y gogledd. Pymtheg mlynedd. Ydych chi'n meddwl bod hynny'n dderbyniol?

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:

Nid ystadegau yn unig yw’r oedi hwn, maent yn blant go iawn, yn deuluoedd go iawn, ac yn dal bywydau go iawn yn ôl. Mae rhieni yn Nwyfor Meirionnydd wedi cyrraedd pen eu tennyn. Mae rhai yn gorfod mynd yn breifat dim ond i gael y diagnosis y mae dirfawr ei angen ar eu plant. Mae hyn yn creu system dwy haen sy'n sylfaenol anghyfiawn. Rwyf wedi siarad â rhieni lleol sy’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael yn llwyr, yn cael eu gorfodi i wylio eu plant yn disgyn ar ei hôl hi yn yr ysgol, yn dioddef o bryder, ac yn colli hyder, i gyd oherwydd bod y diagnosis ffurfiol sydd ei angen arnynt flynyddoedd i ffwrdd. Mewn achosion eithafol, mae plant yn hunan-niweidio wrth aros am ddiagnosis. Nid yw'r rhain yn achosion ynysig - maen nhw'n rhybudd bod y system mewn argyfwng. Ni ddylai unrhyw deulu orfod gwylio eu plentyn yn wynebu anobaith oherwydd bod yr help sydd ei angen arnynt wedi'i gloi y tu ôl i flynyddoedd o aros. Mae teuluoedd mewn cymunedau gwledig fel Dwyfor Meirionnydd yn wynebu mwy fyth o rwystrau. Mae mynediad cyfyngedig i wasanaethau, pellteroedd teithio hir, a chymorth anghyson yn golygu mai y plant yma yn aml sy’n aros hiraf am asesiadau. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r argyfwng hwn. Mae gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddyletswydd i weithredu’n gyflym ac yn dryloyw i leihau’r amseroedd aros hyn a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl.

Dywedodd Shan Jones, rhiant o Lanuwchllyn:

Mae fy mab un ar ddeg oed eisoes wedi aros dros dair blynedd am asesiad niwroamrywiaeth, ac mae’r oedi yn gwaethygu ei gyflwr bob dydd. Mae’n dioddef o bryder difrifol ac mae wedi dweud yn dorcalonnus wrthym nad yw am fyw mwyach oherwydd nad yw’n gallu ymdopi. Ni allem aros yn hirach - roedd yn rhaid i ni dalu'n breifat dim ond i gael asesiad. Nid yw hynny’n ddewis y dylai unrhyw riant orfod ei wneud. Mae’n creu system dwy haen lle mai dim ond y rhai sy’n gallu ei fforddio sy’n cael cymorth, tra bod eraill yn cael eu gadael i ddioddef. Rwy’n bryderus iawn bod ardaloedd gwledig fel ein un ni yng Ngwynedd yn cael eu hanwybyddu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru. Yr hyn sy’n peri’r siom fwyaf yw’r diffyg empathi a ddangoswyd gan y Prif Weinidog. Nid oedd ei hymateb i gwestiwn Mabon ap Gwynfor yn y Senedd yn cyfateb i’r realiti a ddatgelwyd yn y cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae teuluoedd fel fy un i yn haeddu gonestrwydd, brys, a thosturi - ac yn anad dim, mynediad cyfartal at ddiagnosis a chefnogaeth, ni waeth ble maen nhw'n byw neu beth maen nhw'n ei ennill fel cyflog. Mae fy mab yn colli cymaint - ar gyfeillgarwch, ar ddysgu, ar lawenydd - oherwydd nid yw'n gallu cael yr help sydd ei angen arno. Yr hyn yr ydym yn gofyn amdano yw tegwch a chefnogaeth amserol. Mae hynny'n drasiedi na ddylai unrhyw blentyn orfod ei dioddef.