Gwynedd yn pwyso am benderfyniadau ariannol sy'n fuddiol i genedlaethau'r dyfodol

Gwynedd yn pwyso am benderfyniadau ariannol sy'n fuddiol i genedlaethau'r dyfodol

Mae Gwynedd wedi dangos arweiniad heddiw (2 Hydref) a gosod esiampl drwy gymryd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru fel egwyddor greiddiol sy'n arwain penderfyniadau ariannol go iawn.

Dyna'r cwestiwn y cyflwynodd Cynghorydd Gwynedd, Beca Roberts, i'r cyngor llawn yng Nghaernarfon heddiw a derbyn cefngoaeth i Wynedd fod yn gyfrifol i bensiynwyr a chymunedau wrth weithio tuag at carbon sero net yn ei chronfa buddsoddi pensiwn.

“Efallai bod y cynnig hwn yn swnio ar yr wyneb, fel pe bai'n ymwneud â phensiynau a buddsoddiadau. Ond mewn gwirionedd mae’n ymwneud â rhywbeth llawer mwy. Mae'n ymwneud â sut rydym ni, yng Ngwynedd, yn dewis buddsoddi'r arian rydym yn gyfrifol amdano.

“A ydym yn ei ddefnyddio i helpu i adeiladu'r dyfodol rydym yn awyddus i’w weld? Neu a ydym yn gadael iddo fwydo i'r union ddiwydiannau sy'n dinistrio'r dyfodol sydd o’n blaenau?”

Mae'r Cynghorydd Beca Roberts yn falch o dderbyn cefnogaeth ei chyd Gynghorwyr yng Ngwynedd er mwyn holi'r Pwyllgor Pensiynau a Phartneriaeth Pensiwn Cymru i edrych o ddifri ar sut y gallai Cyngor Gwynedd symud cyllid pensiwn oddiwrth buddsoddiadau tanwydd ffosil - a gwneud hynny mewn modd tryloyw, cyfrifol a chyfreithiol.

“I mi, mae'n eithaf clir. Mae diogelu pensiynau yn golygu rhoi arian i ddiwydiannau sy'n ffynnu. Mae tanwydd ffosil yn dod yn fwyfwy ansicr wrth i'r byd symud ei flaenoriaethau tuag at ynni glân. Onid buddsoddi mewn diwydiannau'r dyfodol ddylai fod yn flaenoriaeth i ni yng Ngwynedd? Ynni adnewyddol, tai, seilwaith — y pethau a fydd yn dal i sefyll yn gadarn ymhen 30 mlynedd, pan fydd y gweithlu heddiw yn tynnu eu pensiynau?

“Yng Nghymru, rydym mewn sefyllfa unigryw gan fod pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein gwneud ni, yn ôl cyfraith gwlad, yn driw i heddiw, fory a'r blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n gwneud i ni ganolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf.

“Mae'n un o'r addewidion mwyaf radical, gobeithiol ac anodd y gall cenedl ei wneud. All y cenedlaethau sydd i ddod: ein hwyrion a'n gor-wyrion ddim sefyll yma heddiw a dadlau eu hachos. Alla nhw ddim bargeinio â ni. Felly, mae angen i ni wneud y dewis cywir drostyn nhw yma heddiw. Dyna beth yw bwriad y cynnig yma mewn gwirionedd.

Yn ail elfen i'r rhybudd o gynnig, holodd y Cynghorydd Beca Roberts am gefnogaeth cynghorwyr i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i sefydlu cynhadledd flynyddol ar fuddsoddi moesegol a chynaliadwy gyda'r bwriad o hyrwyddo'r defnydd gorau o'r cronfeydd sydd ar gael.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig yn fy marn i fel y gall cronfeydd pensiwn ledled y wlad rannu arfer dda, a sianelu buddsoddiad i weithredoedd ymarferol sy'n elwa a chefnogi cymunedau.

“Dim ond tua 2.5% o Gronfa Bensiwn Gwynedd sydd wedi ei fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Yn fy marn i, mae’n gwbl bosib i ni oresgyn hyn fel bod ni’n symud yr arian ar gyfer gwell defnydd yma yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cyhoeddi ei bod am i gronfeydd pensiwn fuddsoddi mwy mewn asedau o fewn y deyrnas Gyfunol; o leiaf 5% erbyn 2030.

“Drwy gymryd y 2.5% sydd gennym yng Ngwynedd a’i fuddsoddi mewn ynni adnewyddol, tai fforddiadwy a seilwaith lleol, byddem yn cefnogi ein cymunedau ein hunain yn uniongyrchol. Byddai modd rhoi’r enillion, nid yn unig rhai ariannol ond enillion ymarferol fyddai’n creu gwell llewyrch i fywydau pobl ar lawr gwlad.

“Nid yw'r cynnig yma yn ymwneud â bod yn ddi-fater gyda buddsoddiadau ariannol. Mae'n ymwneud â bod yn gyfrifol — ar ran ein pensiynwyr, ein cymunedau, ac ar ran y genhedlaeth nesaf. Dwi’n awyddus i ddweud wrth y cenedlaethau sy'n ein dilyn: y gwnaethom ni bopeth o fewn ein gallu. Mae'r cynnig hwn yn gam tuag at y dyfodol hwnnw. Dwi'n ddiolchgar fy nghyd-gynghorwyr am gefnogi'r newid yma.”