Wigley a Whittle

Ebr
10
Dydd Gwener, 10 Ebrill 2026 am 6:45pm
Wigley a Whittle

Lleoliad

Clwb Golff Pwllheli
Map Google a chyfarwyddiadau

Cyswllt digwyddiad

Osian Owen

Sut enillodd Plaid Cymru is-etholiad Caerffili

Croeso i bawb i sgwrs ddifyr rhwng Dafydd Wigley a Lindsay Whittle AS, enillydd isetholiad Caerffili.

Bydd yn gyfle i glywed y stori y tu ôl i'r fuddugoliaeth arwyddocaol ym mis Tachwedd —yr mae'n ei olygu i Blaid Cymru, hynt a helynt yr ymgyrch, a'r gwersi a ddysgwyd.

Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio'n bennaf ar isetholiad Caerffili, ond bydd cyfle hefyd i fyfyrio ar brofiadau etholiadol y gorffennol ac edrych ymlaen at y cyfleoedd a'r heriau yn etholiad mis Mai. P'un a ydach chi'n aelod Plaid Cymru neu eisiau dysgu mwy am wleidyddiaeth Cymru, mae'n argoeli i fod yn noson ddifyr dros ben.

Manylion pellach:

  • Clwb Golff Pwllheli, Lôn Golff, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5PS
  • Drysau'n agor am 6.45pm, a bydd y digwyddiad yn dechrau'n brydlon am 7.15pm
  • Cynhelir y rhan helaethaf o'r digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Saesneg
  • Bydd bar a pharcio ar gael ar y safle

Tocynnau:

£5 – ar gael ar ein gwefan neu yn swyddfa Plaid Cymru, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE.

Peidiwch â cholli cyfle i glywed mwy gan ddau lais profiadol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

Sawl tocyn hoffet ti?

£5 y tocyn
Mae angen £50,000 arnom i ariannu'r etholiad ym mis Mai. Wnewch chi gyfrannu £5 heddiw?