AS yn mynychu gwasanaeth coffa 60 mlynedd trychineb Llyn Penmaen

AS yn mynychu gwasanaeth coffa 60 mlynedd trychineb Llyn Penmaen

Ddoe, mynychodd Siân Gwenllian AS wasanaeth coffa yn Llyn Penmaen i nodi 60fed pen-blwydd Trychineb Cwch Pleser Tywysog Cymru.

Ddoe, mynychodd Siân Gwenllian AS wasanaeth coffa yn Llyn Penmaen

i nodi 60fed pen-blwydd Trychineb Cwch Pleser Tywysog Cymru.

 

Etholwyd Sian Gwenllian ym mis Mai fel un o bedwar Aelod Senedd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn, sy'n cynnwys ardal Dolgellau. Mynychodd y gwasanaeth ar y cyd â thrigolion a chynrychiolwyr lleol i dalu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a gyfrannodd at y gwaith achub.

 

Ar 22 Gorffennaf 1966, trawodd cwch pleser Tywysog Cymru bont doll Llyn Penmaen ger Dolgellau wrth iddo agosáu at ddiwedd ei daith o Abermaw. Roedd 42 o bobl ar fwrdd y llong, a chollodd 15 o bobl eu bywydau.

 

Roedd y gwasanaeth, a drefnwyd gan Gyngor Tref Dolgellau, yn cynnwys seremoni dadorchuddio cofeb newydd yn cydnabod y bobl leol a roddodd eu bywydau yn y fantol i achub y 28 o deithwyr a chriw a oroesodd. Darllenwyd cerdd a ysgrifennwyd yn arbennig gan Huw Dylan Owen yn ystod y gwasanaeth, ochr yn ochr â pherfformiadau cerddorol, gweddïau a seremoni gosod torch.

 

Yn dilyn y gwasanaeth, dywedodd Siân Gwenllian AS:

 

"Eleni rydan ni’n nodi 60 mlynedd ers Trychineb Cwch Pleser Tywysog Cymru yn Llyn Penmaen, ger Dolgellau. Mae gen i gof plentyn o'r digwyddiad, gan fy mod i'n ferch ifanc ar y pryd, ac roedd fy nheulu newydd symud o ardal Dolgellau.

 

"Hoffwn ddiolch o galon i Gyngor Tref Dolgellau am drefnu gwasanaeth coffa i nodi 60 mlynedd ers y drychineb."