Swyddi

Trefnydd Ymgyrchu: Etholiad Cyngor Gwynedd 2027

Lleoliad: Gwynedd
Cyflog: Band 2 ( £33,233 - £42,727 ) pro-rata
Oriau gwaith: 30 awr (pedwar diwrnod) yr wythnos
Ceisiadau: Anfonwch ffurflen gais wedi ei chwblhau at [email protected]
Dyddiad cau: Hydref 27,2026 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus ac ymroddedig i ymuno â thîm Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd fel ein Trefnydd Ymgyrch Etholiad Cyngor Gwynedd ar gyfer etholiadau 2027. Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gydlynu ymgyrchoedd lleol, cefnogi ymgeiswyr a gwirfoddolwyr, a chryfhau ein presenoldeb mewn cymunedau ledled Gwynedd. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfathrebwr hyderus, yn drefnydd effeithiol ac yn rhywun sy'n deall ac yn rhannu gwerthoedd Plaid Cymru. Mae manylion llawn am y rôl, y cyfrifoldebau a'r meini prawf hanfodol ar gael yn y PDF disgrifiad swydd, ac mae'r ffurflen gais wedi'i chynnwys isod.

Disgrifiad Swydd (PDF)
Ffurflen Gais (Word)