Cadarnhau’r Cynghorydd Donna O’Brien fel Chweched Ymgeisydd Plaid Cymru dros Wynedd Maldwyn
Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau mai Donna O’Brien, Cynghorydd Cymuned yn Rhiwabon, fydd y chweched ymgeisydd ar restr y blaid ar gyfer etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn yn etholiad y Senedd 2026.
Mae gan y Cynghorydd O’Brien record gref yn ei chymuned. Mae hi wedi bod ar flaen y gad mewn ymgyrchoedd lleol, gan gynnwys pwyso am gau safle tirlenwi Hafod ar ôl cwynion cynyddol am yr arogl o’r safle, yn ogystal â chynnull cyfarfod cyhoeddus i fynnu ailagor yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn ei ward.
Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Donna O’Brien:
“Dwi’n falch o rannu fy mod wedi ymuno â rhestr wych Plaid Cymru o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth newydd Gwynedd Maldwyn yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
“Mae hon yn ardal enfawr ac amrywiol – o fynyddoedd Eryri, i ardal Glyndŵr yn Wrecsam a threfi’r ffin ym Mhowys – a dwi’n barod i sefyll dros ein cymunedau.
“Cefais fy ngeni a’m magu yn yr ardal ac mae gen i wreiddiau dwfn yn y gymuned. Dwi’n berchen ar fusnes lleol ac yn deall yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu trigolion a busnesau bach ein hardal.
“Ochr yn ochr â hyn, dwi’n gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned, ac yn gweithio’n galed i gynrychioli llais pobl leol, amddiffyn gwasanaethau, a chefnogi prosiectau sy’n fuddiol i’n tref.
“Fel aelod gweithgar o Blaid Cymru, dwi hefyd yn angerddol am hyrwyddo ein diwylliant a’n hiaith, a sicrhau bod gan ardal Glyndŵr lais cryf yn lleol ac yn genedlaethol.”
Mae etholaeth Gwynedd Maldwyn – y fwyaf yng Nghymru – yn ymestyn o Ben Llŷn ar arfordir y gorllewin i Ddyfi a Machynlleth, ar draws canolbarth Cymru i’r Drenewydd a’r Trallwng, ac mor bell i’r dwyrain â Chorwen a Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Wedi’i ffurfio drwy gyfuno etholaethau San Steffan Dwyfor Meirionnydd a Maldwyn Glyndŵr, bydd yn chwarae rhan ganolog yn etholiad Senedd 2026.
Yn arwain rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Gwynedd Maldwyn mae dau Aelod presennol o’r Senedd – Siân Gwenllian a Mabon ap Gwynfor. Fe’u dilynir gan y Cynghorydd Beca Brown, y Cynghorydd Elwyn Vaughan, a’r Cynghorydd Elin Hywel, gyda Donna O’Brien yn cwblhau’r tîm cryf o chwech.
O’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd y Senedd yn cynyddu o 60 Aelod i 96, gydag etholaethau aml-aelod yn cael eu creu drwy baru 32 sedd San Steffan Cymru yn 16 talaith.
Mae Siân Gwenllian AS, sydd ar frig rhestr Plaid Cymru dros Wynedd Maldwyn, wedi croesawu Donna i'r tîm:
“Dwi wrth fy modd yn croesawu Donna i dîm cryf o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Wynedd Maldwyn yn 2026.
“Mae gan Blaid Cymru gynrychiolaeth ddaearyddol arbennig – o Arfon, Pen Llŷn, Meirionnydd, Sir Drefaldwyn, a'r cymunedau ôl-ddiwydiannol i'r de o Wrecsam.
“Mae gan bob un ohonom gryfderau a phrofiadau unigryw, a gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod gan yr etholaeth eang ac amrywiol hon lais cryf yn y Senedd nesaf.”
Yn ôl y Cynghorydd Donna O’Brien:
“Ar 7 Mai 2026, dwi’n annog pawb i bleidleisio dros Blaid Cymru – i sicrhau llais cryfach i Wynedd Maldwyn.”