Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau (DVSA) yn sgil cwynion cynyddol am ddiffyg argaeledd profion gyrru yn Nwyfor Meirionnydd.
Mae Mrs Saville Roberts wedi galw ar y DVSA a’r Adran Drafnidiaeth i adolygu ar frys a yw’r adnoddau presennol yn bodloni’r galw cynyddol yn ddigonol, ac a oes opsiynau eraill ar gael i helpu i glirio’r oedi.
Roedd y DVSA wedi bwriadu torri amseroedd aros i saith wythnos erbyn diwedd 2025. Mae'r oedi parhaus yn golygu bod y llywodraeth ar fin methu ei tharged gwreiddiol ar gyfer amseroedd aros o hyd at wyth mis.
Mae Mrs Saville Roberts wedi cyflwyno Cwestiwn Seneddol i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn gofyn faint o brofion gyrru ychwanegol bob mis sydd wedi’u creu ym Mhwllheli a’r Bala yn dilyn y newyddion ym mis Ebrill 2025 o fesurau i greu 10,000 o brofion gyrru ychwanegol y mis.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Dywedir wrthyf gan hyfforddwyr gyrru lleol sydd, wrth geisio archebu prawf gyrru ar gyfer eu myfyrwyr, yn wynebu system archebu lle nad oes lle ar gael mewn canolfannau lleol yng Ngwynedd, sef Pwllheli, y Bala, a Bangor. Mae Dwyfor Meirionnydd yn etholaeth fawr, wledig. Os nad oes darpariaeth naill ai ym Mhwllheli neu'r Bala, yna disgwylir i'r rhai sy'n dymuno sefyll eu prawf deithio sawl awr i'r ganolfan amgen agosaf - heb unrhyw sicrwydd o argaeledd yno ychwaith. Dylai'r DVSA a'r Adran Drafnidiaeth adolygu ar frys a yw'r adnoddau presennol yn bodloni'r galw cynyddol yn ddigonol ac a gafodd unrhyw un o'r 10,000 o brofion ychwanegol a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ym mis Ebrill eu dyrannu i ganolfannau prawf yma yng Ngwynedd. Dylai'r DVSA fod yn ymwybodol o anghenion ychwanegol y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig o ran symud o gwmpas megis annibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus. Dylent fod wedi dosbarthu'r profion hyn yn deg ac yn gymesur yn ôl anghenion o'r fath. Mae hwn yn fater yr wyf wedi’i godi’n flaenorol gyda’r llywodraeth, ac eto nid yw’n ymddangos bod fawr ddim wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r broblem a dod o hyd i ateb cynaliadwy, hirdymor. Mae’r sefyllfa fel ag y mae ar draul nifer gynyddol o bobl ifanc yn aros yn rhwystredig i sefyll eu prawf. Dywed hyfforddwyr wrthyf fod y sefyllfa'n gwaethygu gyda mwy a mwy o bobl ifanc yn methu â sefyll eu prawf ymarferol oherwydd diffyg lleoedd. Mae'r system yn parhau i fod yn ffynhonnell o straen, anghyfleustra a phwysau ariannol. Mae'n amlwg bod angen mwy o dryloywder ac atebolrwydd rhanbarthol i adfer hyder y cyhoedd.
Dywedodd Glain Tudur o Landwrog:
Dwi’n ugain oed ac wedi cael llond bol ar ddibynnu ar bobl eraill i gael o un lle i llall, yn enwedig wrth i mi astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn dod o Landwrog sydd dim ond hanner awr i ffwrdd mewn car. Rwyf wedi bod yn cael gwersi gyrru bron yn wythnosol ers mis Ebrill a rŵan yn hyderus ac yn barod i gymryd fy mhrawf. Dechreuais chwilio am brofion yn ôl ym mis Mehefin a doedd dim un yng Ngwynedd o gwbl a chefais argymhelliad gan ffrind i chwilio am unrhyw brawf rhywle ym Mhrydain a llawrlwytho apiau sydd yn cynnig profion wedi eu canslo i chi. Llwyddais i gael prawf ym mis Chwefror, 2026 ond yn Aberystwyth, ac ers hynny rwyf wedi llawrlwytho tri ap gwahanol sydd mewn partneriaeth â DVSA i hysbysu gyrrwyr dan brawf o unrhyw gansladau. Talais bron i £20 i gael gwerth fy mhres o’r apiau mewn ymdrech o gael prawf yng Ngwynedd. Ers wythnosau rwyf wedi bod yn sicrhau fy mod wedi codi ben bore i chwilio am brofion gan fod llawer yn cael ei rhyddhau am 6 bob bore ond hyd at heddiw, rwyf dal methu cael gafael ar brawf yma yng Ngwynedd. Credaf fod gymaint o alw amdanynt, mae’r rhai prin sydd yn cael eu rhyddhau yn cael ei gymryd yn syth.
