Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS wedi croesawu’r newyddion bod Gwynedd wedi’i chydnabod fel un o’r pum ardal orau yn y DU am argaeledd diffibrilwyr cyhoeddus.
Mae adroddiad Cardiac Coverage gan defibshop yn datgelu bod gan Wynedd 50.35 o ddiffibrilwyr fesul 10,000 o bobl, gan ei osod ymhlith y rhanbarthau sydd wedi paratoi orau yn y DU ar gyfer ymateb i argyfyngau cardiaidd.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru 8,185 o ddiffibrilwyr cyhoeddus, sy’n golygu bod 26 o ddiffibrilwyr ar gael fesul 10,000 o bobl.
Mae Mrs Saville Roberts eisioes wedi galw ar lywodraeth y DU i gael gwared ar TAW ar ddiffibrilwyr - galwad a gefnogir gan ASau trawsbleidiol yn San Steffan. Byddai dileu TAW o ddiffibrilwyr yn eu gwneud yn fwy fforddiadwy ac yn gostwng costau hyd at £500.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ymrwymiad anhygoel pobl ar draws Gwynedd sydd wedi dod at ei gilydd i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y dyfeisiau achub bywyd hyn. Ers ymwneud â Calon Hearts UK yn 2016, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun pa mor hanfodol yw diffibrilwyr i achub bywydau a pha mor angerddol y mae ein cymunedau wedi ymgymryd â’r achos hwn. Rwyf wedi bod yn falch o gefnogi ymdrechion codi arian ar gyfer diffibrilwyr cyhoeddus mewn cymunedau ar draws yr etholaeth, gan gynnwys tri diffibriliwr cymunedol yn Llanfrothen, Rhyd, a Chroesor yn 2017. Mae’n annerbyniol bod grwpiau cymunedol sy’n gweithio’n galed i achub bywydau yn cael eu cosbi gan TAW wrth brynu diffibrilwyr. Nid moethau mo'r dyfeisiau hyn - maent yn offer hanfodol sy'n achub bywydau. Rwyf wedi cefnogi galwadau’n gyson i gael gwared ar TAW ar ddiffibrilwyr at ddefnydd cymunedol, ac anogaf Lywodraeth y DU i gymryd y cam syml, ymarferol hwn i wella mynediad at fesurau iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mae’r ffaith bod gennym ni ddwysedd mor uchel o ddiffibrilwyr yn deillio o ysbryd rhagweithiol a thosturiol ein cymunedau. Mae'r dyfeisiau hyn yn achub bywydau, ac mae pobl Gwynedd wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth gydweithio er lles pawb. Rwyf wedi gweld y gwaith anhygoel a wneir gan wirfoddolwyr, ysgolion a sefydliadau lleol - yn aml mewn partneriaeth ag elusennau i sicrhau bod diffibrilwyr achub bywyd ar gael pryd a ble mae eu hangen fwyaf. Mae pob diffibriliwr a osodir, pob sesiwn hyfforddi a ddarperir, yn gam tuag at gymunedau mwy diogel. Rhaid i ni barhau i adeiladu ar y momentwm hwn, gan sicrhau nad oes neb byth yn rhy bell o’r cymorth sydd ei angen arnynt mewn argyfwng cardiaidd. Rwyf hefyd yn annog pob ysgol, neuadd bentref, lleoliad cyhoeddus, a busnes yng Ngwynedd i ystyried sut y gallant helpu i ehangu’r rhwydwaith hollbwysig hwn o offer brys. Nid ystadegyn yn unig yw cydnabod Gwynedd fel arweinydd y DU ym maes argaeledd diffibriliwyr, mae’n adlewyrchiad o fywydau a allai gael eu hachub. Diolch o galon i bawb sydd wedi chwarae rhan i wneud Gwynedd yn arweinydd mewn ymateb i argyfyngau cardiaidd.