Hwb Dinas Bangor: gwireddu breuddwyd

Hwb Dinas Bangor: gwireddu breuddwyd

Ychydig feddyliodd Cynghorydd Bangor, Elin Walker Jones, y byddai gweithdy cymunedol cwta 20 mis yn ôl yn gweld gwireddu breuddwyd o sefydlu hwb i ganol dinas Bangor i gefnogi’r gymuned gyda phob mathau o wasanaethau hanfodol.

“Mae Cyngor Dinas Bangor wedi bod yn wych,” meddai’r Cynghorydd sy’n cynrychioli Ward Glyder, Bangor ar Gyngor Gwynedd. “Gyda’i cefnogaeth nhw, rydyn ni wedi gweld gwireddu’r freuddwyd yma o gynnig cefnogaeth i bobl y ddinas yma ar eu stepen drws.”

Dros y misoedd sefydlu o fis Ebrill ymlaen, mae’r ganolfan wedi gweld dros 1300 o bobl yn dod drwy’r drysau. Mae’r Hwb yn cynnig y cyfle i bobl alw heibio am gyngor, gwasanaeth i gefnogi iechyd meddwl, cyngor am ddigartrefedd, cyflogaeth, budd-daliadau, banc bwyd a thanwydd.

“Trwy gydweithio gydag asiantaethau eraill mae Hwb Dinas Bangor yn gallu cynnig cefnogaeth a digwyddiadau penodol gyda sefydliadau fel GISDA, y Samariaid, Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, y Bwrdd Iechyd, Cyngor Gwynedd, clwb cyn-filwyr, Enfys Alice, Cymdeithas Affricanaidd Bangor, Heddlu Gogledd Cymru i enwi dim ond rhai o’n partneriaid.”

Wedi’r Gweithdy Trydydd Sector ym mis Ionawr 2024 pan ddaeth nifer helaeth o bobl draw i weld beth oedd y cynlluniau, agorwyd drysau’r Hwb ym mis Ebrill eleni yn hen Gaffi’r Hafan, ger yr orsaf fysiau ym Mangor.

“Mae gweld yr Hwb yn fwrlwm yn gwireddu breuddwyd bersonol i mi,” meddai’r Cynghorydd Plaid Cymru.

“Dywedodd mynychwyr y gweithdy eu bod am weld yr Hwb yng nghanol y ddinas i bobl Bangor ac yn barod, mae wedi cynnig cefnogaeth i gymaint o bobl ers ei agor. Mae hynny yn galondid mawr.

“Rhaid i ni ddiolch i Lisa Goodier a staff Cyngor Dinas Bangor am eu hymroddiad a’i gwaith clodwiw – hebddynt ni fyddai’r weledigaeth wedi ei gwireddu.”

“Mae’n lleoliad canolog ac yn hygyrch i bawb,” meddai Lisa Goodier, Pennaeth Partneriaethau a Thrawsnewid Cyngor Dinas Bangor sy’n cydlynu’r prosiect.

“Rydym wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth sydd wedi ei ddangos i ni, fel staff, ers yr agoriad. Mae gallu gwrando, cynghori a sgwrsio â phobl sydd angen cymorth yn dod a balchder mawr i ni.

“Mae’r Hwb ar agor bob dydd o’r wythnos, rhwng 9 y bore a 5 y prynhawn felly galwch heibio! Does dim angen trefnu ymlaen llaw. Yma cewch glust i wrando, arweiniad ar ble i fynd i gael mwy o help, cefnogaeth a phaned. Mae’r drws ar agor!”

Diolch i Gyngor Dinas Bangor am ariannu’r prosiect ac i ddirprwy Faer Bangor, y Cynghorydd Delyth Russell am agor yr Hwb yn swyddogol. Mae Delyth yn gweithio fel y Cysylltydd Fedra-I yn yr Hwb, felly’n falch iawn o’r gwaith sy’n digwydd yno.

Sefydlwyd hybiau cymunedol gan Gyngor Gwynedd mewn 13 o ardaloedd yng Ngwynedd, i gynnig cefnogaeth i bobl ar draws y sir adeg y cyfnod clo – dyma’r lle i fynd i chwilio am gymorth.

Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones: “Y drafferth ym Mangor oedd ei bod hi’n ddinas o gymunedau gwahanol, ac fe sylweddolwyd bod angen mwy nag un hwb gymunedol gan nad oedd modd diwallu anghenion holl ddinasyddion y ddinas o Faesgeirchen, sef lleoliad yr hwb gwreiddiol.”

Mae Hwb Canol Dinas a Hwb Maesgeirchen yn cydweithio’n hwylus, a chyda hybiau bach cymunedol amrywiol eraill o fewn y ddinas, mae cydweithio pwysig yn digwydd. Mae’r gwaith sy’n digwydd o fewn yr hybiau yn cyfrannu’n helaeth at lesiant trigolion y ddinas ac at agenda ataliol ehangach Cyngor Gwynedd.

Am fwy o wybdoaeth am yr Hwb, galwch 01248 352421 neu e-bostio [email protected]