Mae Aelod Seneddol Caernarfon Liz Saville Roberts wedi estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i Caernarfon Tandoori ar ôl i’r bwyty ennill teitl ‘Bwyty Cyri y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Cyri Cymru a’r Canolbarth yn Birmingham.
Mae’r bwyty poblogaidd, sydd wedi’i leoli yng nghanol Caernarfon, wedi dod â chydnabyddiaeth genedlaethol i’r dref unwaith eto, yn dilyn ei lwyddiant blaenorol yng Ngwobrau Cyri’r Genedl a Gwobrau Bwyd Asiaidd yn 2024. Mae’r wobr yn dyst i ymroddiad a gwaith caled y tîm cyfan yn Caernarfon Tandoori, sydd wedi darparu bwyd a gwasanaeth eithriadol yn gyson i’r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Roedd y seremoni wobrwyo yn tynnu sylw at y gorau yn y diwydiant cyri ac yn dathlu creadigrwydd ac arloesedd bwytai fel Caernarfon Tandoori. Mae llwyddiant parhaus y bwyty hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ei wobr Dewis Teithwyr TripAdvisor a’i enw da cynyddol fel un o gyrchfannau bwyta gorau Cymru.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Rwy’n falch iawn o weld Caernarfon Tandoori yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon fel Bwyty Cyri y Flwyddyn yng Ngwobrau Cyri Cymru a’r Canolbarth. Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r tîm ac yn hwb gwirioneddol i enw da Caernarfon fel cyrchfan ar gyfer bwyd rhagorol. Rwyf wedi cael y pleser o fwyta yn Caernarfon Tandoori fy hun ac rwy’n gallu tystio’n bersonol i ansawdd eu prydau a’r croeso cynnes maen nhw’n ei roi i bob cwsmer. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu eu hymrwymiad i ragoriaeth a’r gefnogaeth gref maent yn ei dderbyn gan ein cymuned. Llongyfarchiadau i bawb yn Caernarfon Tandoori – rydych chi wedi gwneud Caernarfon yn falch iawn!