
Bydd criw o offerynwyr lleol yn dod at ei gilydd nos Wener, Hydref 3 am 7 o’r gloch yn Nhafarn y Fic, y Felinheli, ar gyfer noson hwyliog o ganu cymunedol.
Mae’r noson ‘Canu efo Accordions’ yn gyfle i gyd-ganu rhai o hoff ganeuon y Cymry dros beint, heb bwysau i ymuno. Dim noson i gantorion proffesiynol ydi hon, ond noson i’r rheini sy’n licio canu’r hen ffefrynnau yn y dafarn!
Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond bydd raffl ar werth ar y noson. Dewch â’ch offeryn neu’ch llais i ymuno yn y hwyl!
Mwy o wybodaeth ar y digwyddiad Facebook.