
Mewn cyfarfod lleol yn Y Ganolfan wedi ei drefnu gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn, yn ddiweddar, rhoddwyd ffocws ar drafnidiaeth gyhoeddus tref Blaenau.
“Mae na anesmwythyd ers peth amser bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod creu system trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cysylltu bysiau a threnau ar hyd a lled Cymru, ond y realiti yw nad yw newidiadau yn cyrraedd ardal wledig, fel Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd.
“Mae’r problemau yma yn codi oherwydd newidiadau i ddau wasanaeth bws y T22 a’r T19 sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar deithwyr yn y dref.
“Mae gwasanaeth y T22 wedi ei fyrhau ac nid yw bellach yn cyrraedd Tafarn y Cwm - achos trafferth i etholwyr hŷn a bregus y ward sy’n ei chael hi’n anodd i gyrraedd yr arhosan fws ger yr orsaf.
“Mae’r newid i’r trefniant bws oedd yn arfer mynd o Flaenau i Manod o Ysgol y Moelwyn wedi codi pryderon gyda rhieni, a hynny ar ben gwaredu’r gwasanaeth bws y T19 oedd yn cysylltu Blaenau hefo Llandudno nôl yn Chwefror 2023. Tydi’r gwasanaeth trên ddim yn cyflawni’r hyn oedd y bws yn gallu ei wneud ac mae wedi creu dirywiad yn y gwasanaeth i bobl leol. Roedd cyfle yn ystod y cyfarfod i bobl leol leisio barn a rhannu eu sylwadau.
“Roedden ni’n ffodus iawn o gael presenoldeb yr aelod cabinet dros yr amgylchedd, y Cynghorydd Craig ab Iago i glywed y pryderon a rhannu ei sylwadau ef am y sefyllfa.
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago: “Gyda’r pwysau cynyddol ar y pwrs cyhoeddus, toriadau di-ben-draw rydym yn eu gweld o du’r Llywodraeth yng Nghaerdydd a Than y daw newid yn fanno, anodd iawn fydd cynnig unrhyw newidiadau go iawn i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau.
“Wedi dweud hyn, mae derbyn mewnbwn gan bobl leol yn ein cynorthwyo i gadw meddwl agored wrth i unrhyw gyfleoedd newydd godi ym maes trafnidiaeth cyhoeddus.
“Dwi’n falch iawn o allu dod allan i gymunedau i glywed o lygad y ffynnon, sut mae pobl leol yn teimlo am y ddarpariaeth sy’n cael ei chynnig gan y cyngor neu’r Llywodraeth. Mae clywed y straeon y tu ôl i’r heriau yn rhoi cyfle i mi allu llywio polisi a cheisio dylanwadu ar waith y Llywodraeth. Diolch am y croeso ac am y cydweithio gyda’r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn.”