Gweinidog Trafnidiaeth yn cael ei wahodd i Lanbedr wrth i bryderon traffig barhau

Gweinidog Trafnidiaeth yn cael ei wahodd i Lanbedr wrth i bryderon traffig barhau

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, ac Aelodau newydd Senedd Cymru, Beca Brown ac Elwyn Vaughan, wedi cydwahodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth a Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni yn Llywodraeth Cymru i ymweld â Llanbedr er mwyn ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gymuned ac asesu’r achos dros ffordd osgoi neu ffordd liniaru.

Maent wedi ysgrifennu at y gweinidogion gan dynnu sylw at yr heriau parhaus sy’n wynebu trigolion a busnesau yn Llanbedr, a’r manteision economaidd posibl y gallai ffordd osgoi eu datgloi i’r ardal ehangach, gan gynnwys Maes Awyr Llanbedr.

Wrth wraidd y mater mae’r A496, prif lwybr gogledd–de sy’n cysylltu cymunedau ar hyd arfordir gorllewinol Gwynedd, gan gynnwys Abermaw a Harlech. Mae’r llwybr hwn yn rhedeg yn uniongyrchol drwy bentref Llanbedr ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan draffig lleol, twristiaid, a chludiant nwyddau, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur y gwyliau.

Mae trigolion wedi mynegi pryderon cyson am y traffig trwm sy’n pasio drwy’r pentref, gyda tagfeydd yn ystod cyfnodau brig, pryderon diogelwch i gerddwyr, ac effeithiau amgylcheddol megis sŵn a llygredd aer.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, Beca Brown AS ac Elwyn Vaughan AS:

Mae pobl Llanbedr wedi dangos amynedd rhyfeddol dros gyfnod hir iawn. Mae pryderon ynghylch tagfeydd traffig, diogelwch, a’r effaith ar fywyd bob dydd wedi cael eu hanwybyddu gan lywodraethau blaenorol, a gyda llywodraeth newydd Plaid Cymru, mae gennym gyfle i adfywio’r achos dros weithredu. Mae Llanbedr mewn safle strategol bwysig yng Ngwynedd, gyda chyfleoedd sylweddol ar gyfer twf economaidd, gan gynnwys twristiaeth a menter leol. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau trafnidiaeth presennol yn parhau i fod yn rhwystr. Gallai ffordd osgoi neu ffordd liniaru chwarae rôl allweddol wrth ryddhau’r potensial hwnnw, tra hefyd yn gwella ansawdd bywyd trigolion. Rydym yn gwahodd Gweinidogion Trafnidiaeth a’r Economi i ymweld â Llanbedr i gyfarfod yn uniongyrchol â thrigolion, busnesau a chynrychiolwyr cymunedol. Mae’r llywodraeth newydd hon wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd o wella rheolaeth traffig yn Llanbedr ac Abermaw. Byddai’r ymweliad hwn yn rhoi cyfle i siarad â thrigolion ac i archwilio sut y gallai symud cynllun ffordd osgoi ymlaen gefnogi lles lleol a nodau economaidd rhanbarthol, gan gynnwys gwneud y mwyaf o botensial Maes Awyr Llanbedr. Nid mater trafnidiaeth yn unig mo hwn - mae’n fater economaidd, amgylcheddol a chymunedol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gwynfor Owen (Harlech and Llanbedr):

Rwy’n croesawu cefnogaeth gan ein AS ac Aelodau o Senedd Cymru yn sgil gwahodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth a’r Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni i ymweld â Llanbedr i weld eu hunain y problemau sy’n wynebu y pentref ac i drafod â’r gymuned.