
RHYBUDD, gall y pwnc yma bery gofid
Wedi i Gyngor Gwynedd ddatgan yn glir cyn y Nadolig yr awydd i chwalu’r stigma cymdeithasol am hunanladdiad, mae cynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion wedi uno i gefnogi’r un alwad.
Cyflwynwyd cynnig yng Ngwynedd gan Arweinydd Plaid Cymru, y Cynghorydd Nia Jeffreys, gyda chydweithio agos gyda’r Cynghorydd Elin Walker Jones sydd wedi bod yn gweithio i dynnu sylw at atal hunanladdiad ers colli ei brawd i hunanladdiad ychydig flynyddoedd yn ôl.
Wrth rannu cefndir y cynnig i ddatgan cefnogaeth gadarn i egwyddorion Strategaeth Atal Hunanladdiad Llywodraeth Cymru, nodwyd ffigyrau trist y sefyllfa bresennol.
- Mae 15 mewn 100,000 o bobl wedi marw drwy hunanladdiad yng Nghymru yn 2024
- Gyda 14 mewn 100,000 o bobl wedi marw drwy hunanladdiad yn 2023
- Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth pobl ifanc hyd at 35 oed yn ôl yr elusen Papyrus
- Dynion canol oed rhwng 30-44 oed yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain. Roedd 76% o’r marwolaethau gan hunanladdiad yn ddynion.
- Mae perthynas rhwng tlodi a hunanladdiad; roedd 15 mewn 100,000 o bobl a gymrodd eu bywyd trwy hunanladdiad yn byw mewn ardaloedd difreintiedig
- Y prif ffactorau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad yw tlodi, diweithdra, problemau iechyd meddwl a chorfforol, galar, camdriniaeth, unigedd, problemau perthynas, camddefnyddio alcohol a sylweddau.
- Mae modd atal hunanladdiad, ac mae cefnogaeth ar gael.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae hwn yn bwnc sensitif ac anodd i nifer ohonom, ond mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, lleihau stigma, a gwneud popeth yn ein gallu i atal hunanladdiad.
“Trwy fabwysiadu egwyddorion a gweithredu strategaeth atal hunanladdiad a hunan niweidio Llywodraeth Cymru, wrth basio’r cynnig rydym yn ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i atal hunanladdiad.
Nodwyd wrth drafod y cynnig y cyfleoedd o fewn ysgolion y sir i drafod hunanladdiad fel agwedd ar drafodaeth iechyd meddwl, yng nghyd-destun addysg bersonol, rhyng-berthnasol a chymdeithasol. Bydd trafodaethau o’r fath yn arfogi disgyblion i edrych ar ôl eu hunain a phobl eraill. A bydd yr addysg yn cael ei chyflwyno mewn modd sensitif, gan athrawon sy’n cael y gefnogaeth, goruchwyliaeth a’r hyfforddiant priodol i drosglwyddo addysg o’r fath.
Mae cynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd wedi bod yn cydweithio gyda Mike Palmer, un o’r tri o dadau a sefydlodd ‘3 Dads Walking’ yn dilyn colli eu merched drwy hunanladdiad rhai blynyddoedd yn ôl. Sefydlodd y tri thad, Andy Airey, Mike Palmer, a Tim Owen eu hymgyrch er mwyn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a chodi arian er mwyn atal hunanladdiad.
Yn ôl y Cynghorydd Elin Walker Jones, Ward Glyder, Bangor: “Allwn ni ddim cuddio o’r pynciau dyrys yma sy’n effeithio ar ein trigolion. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n chwalu stigma, yn dod a’r pwnc i’n cartrefi, i’n swyddfeydd, ysgolion, pentrefi a’n caeau. A thrwy agor cil y drws, ac ymestyn allan, rydyn ni’n cefnogi’n gilydd i wynebu’r heriau mae nifer yn eu hwynebu.
“Dwi’n ddiolchgar i gynghorwyr Gwynedd a Cheredigion am eu cefnogaeth i basio’r cynnig hwn. A dwi’n falch bod cefnogaeth lwyr i weithio ar hyn.”
Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, mae arweinyddion Plaid Cymru yng nghynghorau sir eraill Cymru yn bwriadu dod a chynnig o flaen eu siambrau hwythau, felly’r gobaith yw y bydd siroedd eraill yn ymuno â Chyngor Gwynedd a Cheredigion i symud y drafodaeth ymlaen.
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Gyda’n gilydd yng Ngwynedd, Ceredigion a thu hwnt, gallwn wthio am newid, chwalu stigma a chefnogi unigolion a chymunedau sy’n dioddef o ganlyniad i hunanladdiad.”
Os ydych wedi eich heffeithio gan y materion yn y drafodaeth, mae cymorth ar gael drwy ffonio 111 (a dewis rhif 2)
Neu cysylltwch â PAPYRUS (Prevention of young suicide)
Cysylltwch â HOPELINE247 trwy ffôn, neges destun, e-bost neu sgwrs ar y wefan.
Galw 0800 068 4141
Tecst 88247
Ebost [email protected]
Pan fo’r sgwrs ar y wefan yn fyw, mae “Live Chat” yn ymddangos.
Samariaid Gogledd Orllewin Cymru
Ffoniwch yn ddi-dâl 0808 164 0123
Llinell Gymraeg 1900 - 2300 bob dydd
Llinell Saesneg 116 123
24 awr bob dydd
Yng nghefn gwlad mae elusennau Tir Dewi a The DPJ Foundation hefyd yn cynnig cefnogaeth.
Tir Dewi: 0800 121 47 22
(7:00am-22:00)
The DPJ: 07984169652
Cymorth / Get Help: 0800 587 4262 neu tecstiwch/text 07860 048799
Ebost: [email protected]
Cefndir y Cynnig
Cyhoeddwyd strategaeth Hunanladdiad a Hunan Niweidio Llywodraeth Cymru yn 2025.
“Mae hunan‑niweidio a hunanladdiad yn cael effaith ddinistriol ar deuluoedd, anwyliaid, gweithwyr proffesiynol a chymunedau. Gellir atal hunanladdiad a gellir cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer hunanladdiad a hunan‑niweidio os cânt eu rheoli mewn ffordd ddiogel ac anfeirniadol. Nid yw’r ymateb yn perthyn i unrhyw un sector ac yn lle hynny mae angen i ni fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus i gyflawni ein huchelgeisiau – dull sy’n cael ei yrru gan arweinyddiaeth a chymorth effeithiol” (Llywodraeth Cymru, 2025)
Mae mabwysiadu’r strategaeth yn digwydd o fewn cyd-destun Cymru Iachach (2024), gan arddel gwerthoedd sy’n cefnogi pobl yn rhagweithiol, ac yn ymestyn at y rhai sydd angen y cymorth fwyaf, er mwyn lleihau anghydraddoldeb iechyd a rhoi cyfle teg i bawb.